English

organic textiles, t-shirt printing

Ein Gwasanaeth.

O'n stiwdio yn Nantlle yng ngogledd Cymru yr ydym yn cynnig gwasanaeth argraffu crysau-t, a’r cyfan yn ecogyfeillgar – rydyn ni’n argraffu ag inc dŵr lliwgar sy'n golchi'n dda ac yn aros yn ei le, ac yn defnyddio crysau-t cotwm organig a bambŵ cydwybod clir.

Rydyn ni hefyd yn creu amrywiaeth o decstilau organig a chardiau cyfarch sydd wedi'u hargraffu â llaw gan ddefnyddio sgrîn.

Newyddion.

Helfa Gelf
Yr ydym yn cymryd rhan yn yr Helfa Gelf – Stiwdios Agored Gogledd Cymru – eleni. Yr ydym yn 1 o blith 112 o artistiaid sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad ac a fydd yn agor eu drysau i’r cyhoedd am dri phenwythnos ym mis Medi. Mae cyfle hefyd i ennill £500 i’w wario ar weithiau celf, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Helfa Gelf.